Polisi Preifatrwydd
Sefydliad cenedlaethol yw Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sy'n darparu gwasanaethau technolegol a digidol ar gyfer gofal modern i gleifion yng Nghymru. Er mwyn ein galluogi i gyflawni ein swyddogaethau, mae angen i ni ddefnyddio data personol, sef gwybodaeth sy'n adnabod unigolion byw.
Mae ein Polisi Preifatrwydd wedi'i fwriadu ar gyfer cleifion neu bobl eraill y mae eu data yn cael eu cadw a/neu eu defnyddio gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae'n esbonio pam rydym yn cadw gwybodaeth o'r fath, beth rydym yn ei wneud â hi, eu hawliau ac â phwy y gallant gysylltu os oes angen gwybodaeth bellach arnynt.
Gellir dod o hyd i'n Polisi Preifatrwydd yma.
Adborth ac ymholiadau
Gallwch anfon eich adborth atom trwy ddefnyddio'n cyfeiriad e-bost ecosystem@wales.nhs.uk. Os rhowch chi eich manylion cyswllt i ni fel y gallwn ymateb i'ch ymholiad, dim ond at y diben hwnnw y cânt eu defnyddio.
Gwybodaeth am y defnydd o'r safle
Cwcis
Mae cwcis yn ddarnau o ddata a grëir pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth tra'ch bod yn pori drwy'r wefan. Gallwch osod eich cyfrifiadur fel nad yw'n derbyn cwcis. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud hyn, ni fyddwch yn gallu defnyddio rhai nodweddion o'r wefan oherwydd mae angen i ni gofnodi eich dewisiadau er mwyn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn ystod eich ymweliad.
Nid yw ein cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch ac nid ydynt yn cadw unrhyw wybodaeth ynglŷn â pha wefannau yr ymweloch â hwy cyn i chi ymweld â'r wefan hon.
Sut i Analluogi Cwcis
I newid eich gosodiadau cwcis:
• Internet Explorer • Ewch i 'Tools' yn y ddewislen \> Dewiswch 'Internet Options' \> Dewiswch 'Privacy' \> Disable / restrict cookies Firefox • Ewch i 'Tools' yn y ddewislen \> Dewiswch 'Options' \> Dewiswch 'Privacy' \> Disable / restrict cookies Opera
*Noder y gallai'r gosodiadau uchod amrywio yn dibynnu ar fersiwn y porwr.
Gwybodaeth Bersonol
Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y safle.
Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy o'ch gwirfodd ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth neu holiaduron), ni fydd yr wybodaeth a gyflwynwyd ond yn cael ei defnyddio i ymateb i'ch ymholiadau ac at y dibenion y cafodd yr wybodaeth ei chasglu.
Rhestrau Postio
Pa ddata rydym yn eu casglu?
Pan fyddwch yn tanysgrifio i'r wefan, byddwn yn cofnodi eich cyfeiriad e-bost. Byddwn hefyd yn casglu eich dewisiadau tanysgrifio, sy'n gyfyngedig ar hyn o bryd i fanylion am ba restrau rydych wedi tanysgrifio iddynt.
Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn cofnodi unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy arall os byddwch yn dewis ei darparu. Ni fydd yr wybodaeth hon ond yn cael ei defnyddio at ddibenion dadansoddi mewnol er mwyn llywio penderfyniadau ar natur a chynnwys ein cyfathrebiadau.
Mae hyn hefyd yn rhoi gwybodaeth i ni am y defnydd o'n rhestrau postio, gan gynnwys ystadegau yn ymwneud â faint o danysgrifwyr sy'n agor neu'n darllen pob cylchlythyr a nifer yr ymweliadau â dolenni sydd wedi'u cynnwys mewn cylchlythyr. Ni fydd y data hyn ond yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau ar natur a chynnwys cyfathrebiadau'r dyfodol.
At ba ddiben rydym yn bwriadu defnyddio eich gwybodaeth bersonol?
Ni fyddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon diweddariadau i chi ar gynnwys y safle rydych wedi ymuno ag ef. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei ychwanegu at unrhyw restr arall, ei rannu â thrydydd partïon na'i ddefnyddio i anfon e-byst na ofynnwyd amdanynt.
Microsoft Application Insights
Rydym yn defnyddio Application Insights i olrhain statws ein gwasanaeth. Yn ogystal, rydym yn casglu data megis dinasoedd, mathau o ddyfeisiau a cheisiadau. O'r herwydd, bydd yr holl ddata a gesglir trwy Azure Application Insights yn cael eu gwneud yn ddienw ac ni ellir defnyddio'r data i'w paru'n ôl i unigolyn mewn unrhyw achos. Dim ond ar gyfer monitro iechyd ein gwasanaeth y byddwn yn defnyddio'r data hyn ac, ar adegau, efallai y byddwn yn dadansoddi rhywfaint ar y data. Ni fydd gwybodaeth a gesglir gan Application Insights byth yn cael ei rhannu â thrydydd partïon.
HotJar
Rydym yn defnyddio HotJar er mwyn deall anghenion ein defnyddwyr yn well ac er mwyn optimeiddio'r gwasanaeth a'r profiad. Mae HotJar yn wasanaeth technoleg sy'n ein helpu i ddeall profiad ein defnyddwyr yn well (e.e. faint o amser maent yn ei dreulio ar ba dudalennau, pa ddolenni maent yn dewis clicio arnynt, beth mae defnyddwyr yn ei hoffi a beth nad ydynt yn ei hoffi ac ati) ac mae hyn yn ein galluogi i ddatblygu a chynnal ein gwasanaeth gydag adborth defnyddwyr. Mae HotJar yn defnyddio cwcis a thechnolegau eraill i gasglu data ar ymddygiad ein defnyddwyr a'u dyfeisiau (yn benodol, cyfeiriad IP y ddyfais (a gaiff ei gasglu a'i storio'n ddienw yn unig), maint sgrin y ddyfais, math o ddyfais (dynodwyr dyfeisiau unigryw), gwybodaeth am borwyr, lleoliad daearyddol (gwlad yn unig), dewis iaith a ddefnyddir i arddangos ein gwefan). Mae HotJar yn storio'r wybodaeth hon mewn proffil defnyddiwr dienw. Ni fydd HotJar na ni byth yn defnyddio'r wybodaeth hon i adnabod defnyddwyr unigol neu i'w pharu â data pellach ar ddefnyddiwr unigol. Am ragor o fanylion, gweler Polisi Preifatrwydd HotJar trwy glicio ar y ddolen hon.
Pam Rydym yn Casglu Ystadegau Defnyddwyr
Trwy ddeall ymddygiadau a dewisiadau defnyddwyr, rydym yn gallu gwella cynnwys ein gwefan i ddiwallu anghenion a disgwyliadau defnyddwyr
Dolenni i wefannau allanol
Fel y rhan fwyaf o wefannau, mae gwefan Porth Datblygwyr GIG Cymru yn cynnwys dolenni i wefannau allanol. Dylid nodi na fydd y polisi preifatrwydd hwn ond yn berthnasol i'r wefan hon ac nad ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau eraill.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol rydych wedi'i rhoi i ni i unrhyw wefan arall.